Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni Cyngor ar Bopeth Gwynedd & De Ynys Môn Citizens Advice Bureau:
Dydd Gwener, 7fed o Hydref am 2 y.p ym Mhlas Heli, Pwllheli, LL53 5YT.
Rydym yn falch o gyhoeddi mai ein Siaradwr Gwadd fydd Liz Saville Roberts AS, Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd ers mis Mai 2015. Bydd yn rhannu ei myfyrdodau ar ei deunaw mis cyntaf yn San Steffan ac effaith y newidiadau arfaethedig i’r system les ar bobl ei hetholaeth.
Agenda
1) Croeso gan y Llywydd Betty Williams, cyn AS Conwy
2) Liz Saville Roberts AS, Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd
3) Diolchiadau i’r siaradwr – Evelyn Butler
4) Cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2015/2016 – Tal Michael
5) Ymddiheuriadau
6) Datganiadau o Fuddiant
7) Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 22ain Hydref 2015
8) Materion yn codi o’r cofnodion
9) Adroddiad y Cadeirydd – Evelyn Butler
10) Cyflwyno Cyfrifon 2015/2016 – Philip Horwood
11) Newid Erthyglau Sefydlu
12) Ethol Ymddiriedolwyr
13) Ail-benodi Archwilwyr: Williams Denton Cyf
14) Diolchiadau i’r gweithwyr gwirfoddol a chyflogedig
15) Cloi’r cyfarfod
Fersiwn Argraffadwy o’r Agenda a Chofnodion CCB 2014-2015
Dogfennau llawn ar gael i’w gweld a’u lawr lwytho
Gallwch gofrestru eich presenoldeb yma.
Bydd gofyn i’r cyfarfod i ystyried newidiadau pwysig i’n hamcan elusennol ac i’n henw. I ddarllen am newidiadau arfaethedig i’r Erthygliad Sefydlu, edrychwch yma.
© Hawlfraint CAB Gwynedd. Gwefan gan Delwedd.